Cyn gynted ac y rhoddwch eich troed ar y pier, cewch eich amgylchynu gan olygfeydd bendigedig, efallai y gorau o unrhyw pier yn y Deyrnas Unedig. Wrth i chi gerdded tuag at ben y pier, gwelir Ynys Mon o’ch blaen. I’r chwith ac i’r dde, gellir edrych ar hyd y Fenai, tuag at Borthaethwy ar y chwith, a thuag at Llandudno ar y dde. Ac os y trowch rownd, bydd mynyddoedd anhygoel Eryri yn llenwi eich bryd. Ond er hyn mae gan y pier fwy i’w gynnig na golygfeydd yn unig, er mor anhygoel yr ydynt – bob rhyw ganllath ar hyd y dec, dewch ar draws giosgau Fictoriaidd hardd, gyda bob un yn cynnwys menter bach sydd yn siwr i’ch diddori, ac yna ar ben draw y pier, dewch at gromen fawr y Pafiliwn, lle y cewch byrbryd neu bryd o fwyd llawn, neu rhyw panad fach os yn sychedig.
Felly darllenwch ymlaen i ffendio pa drysorau sydd ar gael ar y pier.

TRAC5

Ciosg hufen ia a siop goffi Trac 5. Yn gwerthu hufen ia lleol wrth giat y pier (yn union wrth ymyl Trac Seiclo Sustrans Rhif 5) yn gwerthu danteithion i fynd.

Siop Goffi Trac 5. Wedi ei leoli ar y pier, gyda seti. Yn defnyddio coffi sydd wedi ei bobi yn lleol, teisennau a sconiau cartref. Anrhegion bychan ar werth. Defnyddir cwpanau tafladwy heb blastig. Croeso i gwn hefyd.

WHISTLESTOP ON THE PIER

Rydym yn gwneud ein gorau i ddefnyddio cynhwysion lleol i goginio ein bwyd iachus a ffres. Mae ein Bara Brith ac ein Scuffins yn cael eu pobi adra ym Mhorthaethwy bob dydd. Gobeithiwn y mwynhewch eich ymweliad a iechyd da!!!

PUT THE KETTLE ON

Busnes teulu yw hwn yn gwerthu bwyd ffres, teisennau, te a choffi, rhywbeth i bawb. Eisteddwch yn ol a mwynhewch y golygfeydd anhygoel o Fangor.

Y GALERI

Ar agor yr rhan fwyaf o ddyddiau ac yn gwerthu gwaith celf gwreiddiol, golygfeydd lleol i dir a mor, a phrintiau a lluniau ar gael hefyd. Printiau/cardiau o £1, printiau celf o £5, a gwaith gwreiddiol efo prisiau unigol. Cymerir taliadau cardyn. Anrhegion hyfryd fforddiadwy a byddwch yn cefnogi arlynydd lleol.
Julie Hopkins BA (Hons)
Tel: 07886 447248

Y PAFILIWN

Mae’r pafiliwn o dan reolaeth newydd a bydd yn agor ei ddrysau yn fuan iawn! Gwyliwch yma am y newyddion mwyaf diweddar – rydym yn edrach ymlaen yn fawr iawn i’ch croesawu yn ol!