Dydd Sul 14 Mai 127 Gŵyl Dathlu Pen-blwydd a Cherddoriaeth
I ddathlu pen-blwydd y Pier yn 127, Blwyddyn y Pier I’r National Pier Society ac i nodi diwedd blwyddyn hynod lwyddiannus fel Pier y Flwyddyn yr NPS, mae FBGP a BCC yn trefnu Gŵyl Gerdd ar ddydd Sul 14eg Mai. Cynhelir yr ŵyl o 1pm tan 9pm gyda llu o actau cerddorol cyffrous drwy’r prynhawn a gyda’r nos. Bydd stondinau bwyd a diod, stondinau crefft a gweithgareddau i blant. Bydd Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru yn bresennol i groesawu’r cyhoedd ac i gynnal arddangosiad abseilio oddi ar y pier. Bydd Radio Ysbyty Gwynedd hefyd yn darlledu’n fyw ar y diwrnod. Bydd tân gwyllt yn cloi’r noson am 9pm.
Mae mynediad yn £2 i oedolion (gan gynnwys mynediad i’r pier) a £1 i blant dros 4 oed.
Mae’n argoeli i fod yn ddiwrnod ffantastig i’r teulu oll ac rydym yn gobeithio y byddwch yn gallu ymuno â ni. Edrychwch ar ein tudalen Facebook FBGP am ragor o wybodaeth am y digwyddiad hwn ac unrhyw ddiweddariadau ar beth arall sy’n digwydd ar y pier.