FGBP elusen gofrestredig
Mae Ymddiriedolwyr Ffrindiau Pier Garth Bangor yn hapus iawn I adael I chi wybod ein bod nawr yn cael ein cydnabod fel elusen gofrestredig. Rydym wedi derbyn y neges canlynol gan y Comisiwn Elusen:
Rydym yn fodlon fod FFRINDIAU PIER GARTH BANGOR yn elusen ac mae wedi cael ei roi ar y Gofrestr Elusennol gyda y Rhif Elusen Gofrestredig 1198201.
Seilwyd y penderfyniad I ofrestru ar y wybodaeth a dderbynniwyd yn ystod y broses ymgeisio a’r datganiadau a roddwyd ar y ffurflen datganiad gan yr ymddiriedolwyr ac rydym yn fodlon fod FFRINDIAU PIER GARTH BANGOR wedi cael ei sefydlu gyda amcanion elusennol yn unig ac er budd y cyhoedd.
Mae y broses o gofrestru wedi cymeryd hirach nag a ragwelwyd a bu rhaid ail ysgrifennu ein cyfansoddiad (gan nad oedd ein cyfansoddiad gwreiddio yn dderbynniol i’r Comisiwm Elusen) a gwneud yn siwr fod pob polisi perthnasol yn ei le.
Y peth pwysicaf ydi ein bod nawr yn medru parhau gyda ein bwriad I gwblhau ein gwrthrychau fel elusen:
Er budd y cyhoedd, i amddiffyn, arbed, adfer, a gwella strwthwr ac adeiladau y pier, sydd yn hanesyddol ac efo rhinwedd pensaerniol, ac i hybu addysg y cyhoedd i ddeall hanes ac etifeddiaeth y pier Fictoriaidd hwn, ac ei leoliad ar y Fenai.
Parhawn i weithio yn agos efo Cyngor Dinas Bangor er mwyn cyflawni ein amcenion, ac mae genym syniadau o ran codi arian, a hybu cydweithio gyda’r gymuned.