Hanes Cychod Concrit Afon Menai – sgwrs gan Richard Lewis
Cyflwyniad gweledol gan Richard Lewis wedi ei drefnu gan Ffrindiau Pier Garth Bangor ar nos Fawrth Mai 9fed yn Neuadd Penrhyn, Bangor o 6yh -7.30yh.
Mae Richard Lewis yn ymweld â Bangor i weld yr F.B. 100 yn Bort Penrhyn ac i draddodi’r anerchiad hwn. Mae ar daith ymchwil o’i gartref yn Iwerddon i ymweld ag archif yr Amgueddfa Dyfrffyrdd Cenedlaethol yn Ellesmere Port ac Amgueddfa Forwrol Lerpwl ac i weld Cychod Concrit Ferro ym Mhorth Penrhyn, Lymm, Winnington a Llannerch-y-Môr. Mae wedi bod yn ymweld â’r Fenai ers 60 mlynedd ac nid oedd erioed wedi sylwi arnyn nhw o’r blaen chwaith!
Mynediad £3 y pen a gellir ei brynu ymlaen llaw yng Nghiosg Mynediad Pier y Garth.
Bydd lluniaeth (te, coffi a bisgedi) ar gael i’w prynu ar y noson.
Mae tocynnau ar gael o hyd felly dewch i ymuno â ni i gael cipolwg hynod ddiddorol ar hanes cychod concrit a adeiladwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Bydd yr holl elw yn mynd tuag at adfer Pier Garth Bangor.