Adeiladwyd y rhan fwyaf o’r pieri glan-y-mor yng Nghymru a Lloegr er mwyn galluogi teithwyr i ddefnyddio fferiau mewn ffordd ddiogel. Cyn belled yn ol a 1292, yn ol hanesion siryfol o’r adeg, bu fferi o’r enw Fferi Porthesgob yn cael ei weithredu gan Esgob Bangor. Roedd gan y fferi yma fanau glanio yng Ngorad y Gyt a Phwynt Garth ar ochr Gwynedd, ac yng Ngadnant, Porth Philip Ddu, Borthwen, a Phenrhyn Safnas ar ochr Sir Fon. Roedd y broses o lanio oddi ar y fferi yn berygl ofnadwy, a defnyddir jetiau cyntefig a fuasai yn codi a disgyn efo’r llanw.
Roedd Fferi y Garth yn gweithredu o’r jeti carreg a welir wrth ochr y pier hydynoed heddiw, ac yn gweithio fel y man croesi pwysica o Fangor i Fon, cyn i Bont y Borth gael ei hadeiladu yn 1826, ac am flynyddoedd lawer ar ol hyny hefyd. Mae cofnodion hwyrach yn disgrifio cymaint o angen a fu i allu trosglwyddo teithwyr yn saff oddi ar y stemars rhwng Bangor a Lerpwl, ac hefyd porthladdoedd eraill yng Ngogledd Cymru heb orfod defnyddio cychod bach perygl, ac hefyd i drosglwyddo cargo mewn ffordd ddiogel. Felly yn 1885, dechreuodd Cyngor Dinas Bangor ymchwilio i mewn i ffyrdd mwy modern o gyflwyno y tasgiau yma, gan rhagweld y buasai y traffic morwrol yma yn cynyddu yn fawr yn y dyfodol.Cychwynwyd trafodaethau gyda y teulu Morgan, a fu yn brydleswyr i Fferi y Garth am bron i gan mlynedd, a gyda ‘r Comisiynydd Eglwysig a oedd bia y fferi , ac yn 1891 caffaelwyd yr hen iard lechi yng Ngarth a gwneuwyd gwelliannau i’r hen jeti carreg, a dechreuwyd gwasanaeth stemar o Fangor i Lerpwl ar y Tywysog Ja Ja, gan redeg dwywaith yr wythnos.

Dros y wlad ar yr adeg yma roedd y pierau yn dechrau cael eu cydnabod fel atyniadau gwerthfawr i gyrchfanau glan-y-mor, ac er nad oedd gan Fangor draeth tywodlyd fel rhai cyrchfanau eraill, roedd teimlad cryf y buasai pier promenad gyda ei fan glanio ei hun o fudd enfawr i’r ddinas. I ddechrau, gofynwyd i’r Brodyr Mayoh o Fanceinion greu planiau am y pier, gyda amcangyfrif cost i alluogi y cyngor i ofyn caniatad gan Bwrdd Masnach i adeiladau y fath strwythur yng Ngarth. Yn fuan iawn, cododd yr amcangyfrif gwreiddiol o £14,000 i fyny at £25,000, i gynnwys prynu Fferi y Garth; gwella y manau glanio; a phrynu fferiau newydd. Bwriadir i dalu y costiau yma gyda benthyciad gan y Bwrdd Llywodraethu LLeol. Yn anffodus, nid oedd yn bosib cael cytuniad llwyr gan fod gwrthwynebiadau cryf i’r syniad o wario cymaint o bres gan gyngor a oedd yn barod efo heriau arianol enfawr. Ond er hyny, yn 1893, yn dilyn Ymchwiliad gan y Bwrdd Llywodraethu Lleol, cafodd y benthyciad ei gymeradwyo, ac roedd y cyngor yn rhydd i ddechrau adeiladu y pier newydd! Penderfynwyd i beidio defnyddio y Brodyr Mayoh, ond i ofyn i Mr John James Webster o Westminster i’w cynghori. Roedd Mr Webster yn beiriannydd pontydd profiadol iawn ac roedd newydd ddylunio y Pier Promenad newydd yn Dover ac agorwyd yn 1893, ac oedd o ddyluniad tebyg i’r pier a gynnigwyd i Fangor. Bu Mr Webster yn helpu efo’r cais am orchymyn Seneddol i adeiladau y pier, a derbynwyd Cydsyniad Brenhinol yn niwedd mis Awst 1894, a dilynwyd gan ei benodiad fel y peirianydd i’r prosiect. Roedd Bil Pier Bangor yn achlysur i ddathliant mewn yn y ddinas gyda gorymdaith o gloc y dref tuag at y fferi, lle y cyflwynwyd agoriad arian i giatiau y fferi i’r cyngor gan Mr Morgan, a fu yn brydleswr i Fferi y Garth.

Gofynwyd am dendrau i adeiladu y pier, a rhoddwyd y contract i Alfred Thorne o Westminster, a fu yn barod wedi gweithio ar nifer o bierau yn y Deyrnas Unedig a thramor. Dechreuodd y gwaith yn yr hydref o 1894 a cymerodd ddeunaw mis i’w gywblhau. Cafodd ei agor yn ffurfiol gan yr Arglwydd Penrhyn ar Fai 14 1896 yn dilyn gorymdaith drwy’r ddinas a gyda dros 5,000 o bobl yn gwylio y seremoni agoriadol. Roedd y pier yn 1,500 troedfedd o hir a 24 troedfedd o led, gyda ardal mwy llydan ar ben y pier, sydd yn 59 troedfedd o hir a 99 troedfedd o led, gyda bandstand o dan do yn arwain at fan glanio arnofiedig a gyrhaeddir dros bont girder. Wrth y mynediad, safai dwy giat addurnol, gyda pafiliwn bach ar bob ochr, gyda rhes o bafiliynau wedi eu gosod ar brydiau ar hyd y dec. Mae y rhan fwyaf o’r dyluniad gwreiddiol yn dal yna, a gwelir y pier fel un o’r mwyaf cain yn y Deyrnas Unedig. Ar ol ei gwblhau, roedd y pier yn arbennig o llwyddiannus, gyda llawer stemar yn galw yn rheolaidd, a cannoedd o filoedd o deithwyr yn defnyddio y gwasanaeth yn y cyfnod hyd at 1914. Yn ogystal cynhelwyd amryw adloniant ar y pier, gan gynnwys sioe pierrot, bandiau pres, sioeau amrywiaeth, a chystadlaethau nofio. Er hyn, penderfynwyd cau ochrau agored y bandstand er mwyn darparu mwy o gysur.
Rhwng 1896, pan cafodd y pier ei agor, a mis Mawrth 1914, dywedwyd fod dros 440,000 o bobl wedi talu i ddefnyddio gwasanaethau y pier, ac hefyd bu i 296,000 o bobl brynu gwasanaethau contract, a rhif tebyg yn mynychu adloniant ar y pier. Dwy geiniog oedd y taliad mynediad cyffredinol, sydd yn gyfartal a thua 65 ceiniog heddiw, ond codai hyn i chwe ceiniog i achlysuron arbennig, tua £1.95 heddiw. Roedd chwe ceiniog yn un rhan mewn pedwar ar ddeg o gyflog dyddiol dyn crefftus.

Bu trychineb yn mis Rhagfyr 1914 pan fu i’r stemar masnach Christiana wrthdaro efo y pier yn ystod storm, gan greu twll o 150 troedfedd drwy ganol y pier. Adeiladwyd rhodfa dros dro gan Beiriannwyr Brenhinol Mon, ond bu rhaid disgwyl hyd at 1922 i’r gwaith trwsio cyflawn gael ei gario allan, pryd fu darganfod gwalliau strwythol difrifol. Oherwydd hyn, bu rhaid gwneud trwsiadau pwysig ac ar yr un amser gwneuwyd gwellianau i’r cam glanio. Yn anffodus, o ganol y 1920au ymlaen, nid oedd y pier mor boblogaidd, gan fod bysiau yn disodli y fferiau, a chan fod y llongau yn mynd yn fwy mewn maint, a hyn yn gwneud Bangor yn anymarferol fel man glanio. Yn ogystal, gwelwyd lleihad yn yr adloniant oedd ar gael, ac erbyn y tridegau cynnar, roedd y pier yn gwneud colledion trwm, a gofynwyd cwestiynnau amdan y ddoethineb o gadw y pier a’i wasanaethau mewn perchnogaeth cyhoeddus.

Gyda dyfodiad yr Ail Ryfel Byd, torrwyd ar draws unrhyw blaniau, a thynnwyd i ffwrdd ran o ddec y pier er mwyn atal unrhyw oresgynwr y gelyn i ddefnyddio y pier. Ar ol i’r rhyfel orffen, roedd y pier mewn stad torcalonus, a cafwyd rhai galwadau i’r pier gael ei ddymchwel neu ei werthu. Yn ffodus iawn, medrwyd osgoi hyn a bu i’r cyngor wneud gwellianau i’r pier, ac annogwyd ei ddefnydd i gynnal dawnsiau ac yn y blaen. Ond er hyny roedd y pier yn parhau i golli pres a dirywio yn strwythol.
Yn 1971 bu rhaid cau y pier, oherwydd dangosodd arolwg yn y chwedegau nad oedd y pier yn ddiogel ddim mwy. Roedd dymchweliad llwyr o’r pier gan Gyngor Ardal Arfon, a oedd biau y pier ar y pryd yn dilyn ad-drefnu llywodraeth lleol yn 1974 ar y cardiau, ond cafodd ei osgoi gan un bleidlais. Yn 1978 medrodd Cyngor Cymuned Dinas Bangor alluogi y pier i gael statws Gradd II, a prynwyd y pier am 1c, a rhoddwyd addewid i’w adfer, ac ar ol hyn ni fu ymgais arall i’w ddymchwel. Amcanhawyd bod angen £470,000 i’w adfer, swm na fedrai y cyngor ei afforddio, felly dechreuwyd codi pres i alluogi yr adferiad.
Erbyn mis Hydref 1982, dechreuwyd y gwaith adfer o’r diwedd. Roedd hyn yn dilyn cefnogaeth ariannol gan nifer o sefydliadau, gan gynnwys Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Asiantaeth Ddatblygu Cymru, Cronfa Goffa Treftadaeth Genedlaethol, a Chyngor Adeiladau Hanesyddol. Sefydlwyd cynllyn gan y Commisiwn Gwasanaethau Gweithlu, ac roedd hyn yn rhoddi cyfleuon gwaith tymor byr i bobl diwaith lleol. Bu i’r costau godi oherwydd tywydd drwg, a ffendiwyd yr arian drwy gynllun noddi lle roedd cydrannau amrywiol o’r pier yn cael eu noddi am symiau rhwng £5 a £2,500. Noddwyd arian ychwanegol i’r pafiliwn ar pen y pier ac i drwsio y giatau addyrnol. Yn dilyn hyn, ennilodd y pier Wobr Tywysog Cymru yn 1983 a gwobr cadwraeth Europa Nostra yn 1988. O’r diwedd, ym mis Mai 1988, ar ol cost o £3 miliwn, agorwyd y pier hardd gan Farcwis Ynys Mon.

Yn dilyn hyn, cafwyd adeg distaw lle y cadwodd y pier ei boblogrwydd a datblygodd enw da iawn i’r Ystafell De yn y Pafiliwn, efo eu sconiau arbennig o dda ar gael. Ond, yn anffodus, nid oedd y gwaith cynnal a chadw yn cael y sylw angenrheidiol, ar erbyn 2011 roedd problemau mawr yn ddatblygu efo is-strwythur y pier.
Ceir cyfrif manwl o hanes modern y pier ar we y National Piers Society ar https://piers.org.uk/pier/bangor-garth/