Mae Ffrindiau Pier Bangor a Chyngor Bangor yn falch o gyflwyno arddangosfa i ddathlu 125 mlynedd y Pier
Mae Ffrindiau Pier Bangor a Chyngor Bangor yn falch o gyflwyno arddangosfa i ddathlu 125 mlynedd y Pier, gyda sylw ar hanes a storïau lleol. Gwelir yr arddangosfa yn Storiel, Bangor rhwng Mawrth 26ain hyd at 4ydd o Fehefin. Mae mynediad am ddim gyda blwch rhoddion ger y drws. Byddwn hefyd yn dangos ffilm wreiddiol gan Monster Films, ffotograffiaeth wreiddiol gan Adam Milton-Barker o Anglesey Drone Media Services, ynghyd a gwaith celf gan ysgolion yr ardal.
“Mae Pier Bangor wedi bod yn rhan anferth o’n Dinas am ymhell dros ganrif a gwyddwn ei bod yn agos at galon pawb. Mae mor gyffrous cael dod a’r arddangosfa hon at ei gilydd i ddathlu’r storïau a wnaed dros y 125 mlynedd diwethaf am yr eicon hwn o Fangor.”
Y Maer Owen Hurcum
“Rydym yn falch iawn o ddod a 125 mlynedd o hanes yr adeiledd eiconig hwn ym Mangor -Pier y Garth, yn fyw. Trefnwyd hyn ar y cyd gan Gyngor Dinas Bangor a Ffrindiau Pier Garth Bangor, a bydd yr arddangosfa hon yn Storiel yn gyffrous ac yn ddathliad o’r pier a’i phobl.”
Avril Wayte, Cadeirydd Ffrindiau Pier Garth Bangor
Mae Storiel ar agor o Ddydd Mawrth i Ddydd Sadwrn, 11.00am – 5pm. 01248 353 368 www.storiel.cymru