Pier Garth Bangor yw Pier y Flwyddyn 2022

Mae y National Pier Society (NPS) newydd gyhoeddi for eu gwobr blynyddol chwenychedig yn mynd I BIER GARTH BANGOR, ‘cyflawniad addas i’r Pier Rhestredig (gradd II*) yma, yn ei 125ain flwyddyn.’

Mae aelodion y NPS wedi disgrifio y pier fel:

‘Pier Perffaith mewn gosodiad perffaith’

‘Yn brydferth ac yn demtasiwn ym mhob tywydd. Mae o hyd yn clirio fy mhen wrth I mi gerdded ei hyd!’

Dywedodd LLywydd y National Pier Society, Gavin Henderson ‘Llongyfarchiadau i Pier Garth Bangor – pier haeddiannol iawn I dderbyn y wobr, a cant y cant i’r holl gefnogwyr ymroddedig am atgyweirio y pier gogoneddus yma i’w harddwch gwreiddiol.’

Dywedodd Cadeirydd yr NPS, Tim Wardley, fod ‘llongyfrachiadau mawr i’w gyrru I Bier Garth Bangor – ennillydd haeddiannol iawn, a phier prydferth wedi ei leoli yn y ardal hardd Gogledd Cymru, sydd yn cael ei werthfawrogi a’i garu gan bobol lleol ac ymwelwyr. Dros y blynyddedd diweddar mae’r cyngor lleol, sydd biau y pier, wedi ddangos cyn gymaint iddynt ei werthfawrogi, gan iddynt wario cymaint ar ei atgyweirio. Edrychaf ymlaen i ymweld a’r pier yn fuan, a chyfarfod y tim o wirfoddolwyr a’r staff, a chyflwyno y wobr iddynt. Hip hip hwre I Bier Garth Bangor!’

Dywedodd Cadeirydd Ffrindiau Pier Garth Bangor Avril Wayte, mewn ymateb i’r newyddion: ‘rydym wrth ein boddau I ennill y wobr yma – mae hyn yn anhygoel o newyddion da, ac edrychwn ymlaen yn fawr I groesawu y byd i’r pier. Mae gennym raglan cyffrous iawn am 2022, gan gynnwys Penwythnos Jiwbili – dewch I ymuno efo ni!’

Mae hon wedi bod yn flwyddyn cyffrous iawn i’r pier, cyn gymaint o bethau i’w dathlu, gan gynnwys penblwydd y pier yn 125 mlwydd oed. Oherwydd gwaith caled Cyngor Dinas Bangor, Ffrindiau Pier Garth Bangor, a pherchnogion y ciosgau ar y pier, ein pier yw y tlws yng nghoron Bangor.

I mi, y peth gorau oll yw y bywiogrwydd sydd yn amgylchynu y pier, i raddau helaeth oherwydd ein hanner cant o wirfoddolwyr ymroddedig sydd yn gweithio ar y pier, bob dydd, ym mhob tywydd. Ymdrech gymunedol go iawn.’

Dywedodd y Cynghorydd Owen Hurcum, Maer Bangor, ‘nad yw’r wobr yn syrpreis i bobol sydd yn adnabod ein pier arbennig – efallai mwy o syrpreis nad ydio’n ennill bob blwyddyn! Ond I fod o ddifrif, mae’n gymaint o fraint i’n pier ac yn destament i’r holl waith caled gan cyn gymaint o bobol.

Mae’n dda gweld fod gwaith caled Cyngor Dinas Bangor, a’r holl bres a gafodd ei wario I adfer y pier (ddwywiath erbyn hyn), a’i gadw fel atyniad i’r cyhoedd, ac wrth gwrs gwaith diflino ac ymroddedig Ffrindiau Pier Garth Bangor a’u gwirfoddolwyr wedi cael ei gydnabod, ac mae yn fraint enfawr i ni i dderbyn cydnabyddiaeth yma a bod yn ennillydd ymysg holl pierau Prydain.’

Share this Post