DOD YN FFRIND I BIER Y GARTH
Rydym am i gynifer o bobl â phosibl ymuno â ni yn y fenter hon i sicrhau dyfodol llwyddiannus i Pier Garth Bangor. Mae cyngor y ddinas eisioes wedi byddsoddi yn drwm mewn menter ragorol i adfer strwythur y pier yn llawn a’n nod yw darparu amrywiaeth o wasanaethau i gyd-fynd â’r cyflawniad hwn. I wneud hyn rydym wedi creu Sefydliad Corfforedig Elusennol (Strwythur Sylfaen) a elwir yn Ffrindiau Pier Garth Bangor (FPGB).
Fel y nodir yn ein cyfansoddiad, ein amcenion yw: er modd y cyhoedd, i gefnogi‘r amddiffyniad, cadwedigaeth, adfer a gwella o’r strwythur ac adeladau o deilyngdod hanesyddol a phensaerniol Pier Garth Bangor, ac i hyrwyddo addysg y cyhoedd wrth ddeall hanes a threftadaeth y strwythur Fictoraidd hwn, a’i leoliad ar y Fenai.
Er mwyn cyflawni ein hamcenion rydym yn rhedeg siop anrhegion ar y pier, a gweithredu’r ciosg mynediad, a’r ddau yn cal eu staffio gan dîm o wirfoddolwyr dan arweiniad ein cydlynydd gwirfoddolwyr. Mae’r elw o’r siop anrhegion yn cael ei ddefnyddio i ariannu prosiectau penodol ar y pier, megis yr adeiladwaith o giosg segur o ddiddordeb hanesyddol. Mae’r arian a godir wrth y ciosg mynediad yn cael ei drosglwyddo’n uniongyrchol i gyngor dinas Bangor i ariannu gwaith cynnal a chadw parhaus ar y pier, yn sicrhau dyfodol diogel i’r pier.
Aelodaeth
Trwy ddod yn aelod byddwch yn derbyn cylchlythyr misol, sydd yn ffordd effeithiol o ledaenu’r holl eitemau newyddion perthnasol ynghylch FPGB i’n haelodau
Aelodau gwirfoddol
Ar ddod yn aelod, mae gennych y dewis o ymuno â’n tîm cynyddol o wirfoddolwyr – mae opsiynau yn cynnwys gwirfoddoli yn ein siop anrhegion, neu staffio’r ciosg mynediad, neu’r ddau, neu i fod yn bresennol mewn swyddogaeth gefnogol mewn unrhyw un o’r digwyddiadau niferus rydym yn rhedeg ar hyd y flwyddyn ar y pier. Gall unrhyw un, waeth beth fo’u hoedran (ond rhaid iddynt fod yn 18 oed neu’n hyn ), rhyw, cyferiadedd rhywiol, hil neu grefydd ddod yn wirfoddolwr. Mae hyfforddiant llawn ar gael i unrhyw un sydd yn cofrestru fel gwirfoddolwr, ac mae cefnogaeth llawn ar gael bob amser.
Os y dymunwch ymuno efo ni, gallwch ddefnyddio ein Cais Aelodaeth ar-lein hon.
Rhif cofrestru elusen: 1198201